Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 31 Ionawr 2023
Amser:
09.01 -
09.23
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes mai hi fydd yn ateb y Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw yn absenoldeb y Prif Weinidog.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes am ei bwriad i fynegi cydymdeimlad â'r Prif Weinidog ar ran y Senedd ar ddechrau'r cyfarfod y prynhawn yma.
Dydd Mercher
Dim busnes wedi'i drefnu
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu LHDTC+ (30 munud)
Dydd Mercher 14 Chwefror 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (60 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dysgu Digidol mewn Addysg Bellach (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Ymateb Dyngarol i Wcráin (30 munud)
· Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 (15 munud)
· Dadl: Setliad yr Heddlu 2023-24 (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher 8 Chwefror 2023 -
Dydd Mercher 15 Chwefror 2023 -
Dydd Mercher 1 Mawrth 2023 –
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i aildrefnu'r Ddadl Aelodau ar 8 Chwefror i 1 Mawrth er mwyn sicrhau gwell cydbwysedd o ran amseroedd gorffen dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor bod Mike Hedges a Russell George wedi cytuno i gyfnewid eu dadleuon byr. Bydd dadl Russell George nawr yn cael ei chynnal ar 8 Chwefror a bydd dadl Mike Hedges ar 15 Chwefror.
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 15 Chwefror:
NNDM8187
Luke Fletcher
Cyd-gyflwynwyr: Mike Hedges, Heledd Fychan, Jane Dodds, Adam Price, Carolyn Thomas, Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Llywodraeth Cymru wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn wahanol i Lywodraeth y DU yn Lloegr;
b) nad yw gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru wedi newid ers 2004, ac nad yw'r trothwyon cymhwysedd wedi newid ers 2011;
c) er bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn fath pwysig o gymorth ariannol i ddysgwyr ôl-16, nid yw wedi cadw i fyny â phwysau costau byw.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried codiad sy'n gysylltiedig â chwyddiant i werth y lwfans cynhaliaeth addysg ac adolygiad o'r trothwyon.
A'r cynnig canlynol ar 1 Mawrth:
NNDM8131
Sarah Murphy
Cyd-gyflwynydd: Jane Dodds
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometreg mewn ysgolion ledled Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n:
a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru;
b) sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau biometrig a allai beryglu diogelwch data biometreg plant;
c) sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith;
d) cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometreg;
e) cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometreg o fewn ysgolion.
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Rheoliadau at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid, a gofynnwyd i'r pwyllgorau adrodd erbyn dydd Llun 27 Chwefror 2023.
4.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd Pwyllgor Busnes yr ohebiaeth a'r atodiad a oedd yn cynnwys diweddariad ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a'i bwriad y dylai'r Senedd gael cyfle i graffu ar is-ddeddfwriaeth sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. Nododd y Pwyllgor hefyd fwriad y Llywodraeth i gysylltu â hi unwaith y bydd ganddi ddigon o wybodaeth am y goblygiadau posibl o ran amserlen y Senedd.
5 Busnes y Senedd
5.1 Y defnydd o ddadleuon 30 munud yn ystod amser y gwrthbleidiau
Trafododd y Pwyllgor Busnes arferion presennol yn ymwneud â threfnu dadleuon yn amser y gwrthbleidiau a chytunodd i beidio â gwneud unrhyw ddiwygiadau ar hyn o bryd. Nododd y Llywydd y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn ceisio sicrhau bod modd clywed amrywiaeth o leisiau yn ystod pob dadl, a hynny drwy nifer yr Aelodau a elwir i siarad, a’r drefn y cânt eu galw i siarad.